Stephen Biko | |
---|---|
Ffugenw | Frank Talk |
Ganwyd | 18 Rhagfyr 1946 King William's Town, Tarkastad |
Bu farw | 12 Medi 1977 Pretoria |
Dinasyddiaeth | De Affrica |
Alma mater | |
Galwedigaeth | ymgyrchydd hawliau sifil, undebwr llafur, gwleidydd, llenor |
Plaid Wleidyddol | South African Students' Organization, Black People's Convention |
Tad | Mzingayi Mathew Biko |
Mam | Alice 'Mameete' |
Priod | Ntsiki Mashalaba |
Plant | Hlumelo Biko |
Gwefan | http://www.sbf.org.za/home/ |
Roedd Stephen Bantu Biko (18 Rhagfyr 1946 – 12 Medi 1977)[1] yn ymgyrchydd gwrth-apartheid adnabyddus yn Ne Affrica yn ystod y 1960au a'r 1970au. Dechreuodd fel arweinydd ymysg myfyrwyr, cyn sefydlu Mudiad Ymwybyddiaeth y Duon, mudiad a fyddai'n ysbrydoli nifer o'r bobl dduon dinesig. Ers ei farwolaeth yn nalfa'r heddlu, fe'i ystyrir yn ferthyr y mudiad gwrth-apartheid[2]. Yn ystod ei fywyd, roedd ei waith ysgrifenedig a'i weithredodd yn ceisio ymbŵeru'r bobl dduon, ac roedd yn enwog am ei slogannau fel "black is beautiful", slogan y digrifiodd ef ei hun a oedd yn gyfystyr â: "man, you are okay as you are, begin to look upon yourself as a human being". Er gwaethaf gwrthdaro rhyngddo ef a'r ANC trwy gydol y 1970au, roedd yr ANC wedi cynnwys Biko fel un o arwyr y frwydr am gydraddoldeb, gan ddefnyddio llun ohono ar eu posteri ar gyfer etholiadau di-hil cyntaf De Affrica yn 2004.